Ers gael ei sefydlu yn 2002 gan gerddorion broffesiynol, mae'r Pedwarawd Llinynnol Cambria wedi ennill profiad helaeth mewn perfformio yng ngwahanol digwyddiadau busnes ac achlysurol yn ogystal a phriodasau. Rydym fel arfer yn chwarae o gwmpas De Cymru, ond hefyd yn fodlon teithio i Dde Orllewin Lloegr a rhannau o ganolbarth Cymru.
Fel y gwelir yn ein rhestr o gerddoriaeth, cynnigir gwahanol arddulliau yn ein repertoire; rhywbeth i siwto pawb gan gynnwys clasurol, opera, comedi gerdd, gwerin, jas a cherddoriaeth gyfoes (megis Abba, Sting, The Verve ag eraill). Mae'r rhestr yma o hyd yn cynyddu a byddwn yn gwneud pob ymdrech i gwrdd ag unrhyw ofynion arbennig gan greu trefniadau newydd.
Mae pob chwaraewr yn y pedwarawd a phrofiad cerddorol helaeth gan gynnwys Gerddorfa Genedlaethol Cymru'r BBC, Cerddorfa Opera'r Academi Frenhinol, English National Ballet, Sinfonia Cymru, Cerddoriaeth Philharmonig Gorllewin Lloegr, Cerddorfa Siambr Cymru, Opera Genedlaethol Cymru ar Jeff Hooper Big Band. Rydym hefyd fel unigolion wedi cael y pleser o weithio gydag artistiaid megis Bryn Terfel, Sian Cothi, Ryland Teifi, Charlotte Church, Carreg Lafar, Bethan Nia, Peter Karrie a Lesley Garret.
Gwelwyd o'r adborth bositif yr ydym wedi ei dderbyn (yn yr adran 'Cymeradwyol') bod ein cerddoriaeth wedi ei werthfawrogi'n fawr iawn a bod ein cyfraniad ni fel pedwarawd yn chwarae rol bwysig mewn rhoi naws arbennig a chofiadwy i'r diwrnod.
Mwynhewch yr wefan! Croeso i chi gysylltu a ni. Byddwn yn hapus i'ch cynorthwyo a darparu mwy o wybodaeth i chi ynglyn a'n gwasanaethau.