Cafodd Helina ei geni a'i magu yn y Barri, De Cymru. Wedyn, symudodd i Lundain i ddilyn gradd yn yr Academi Frenhinol Gerdd, gan raddio ym 1996. Mae hi nawr yn gweithio ar liwt ei hun fel chwaraewr ffidil ac yn dysgu'r offeryn yn ogystal â'r piano yn breifat.
Yn y gorffennol, bu Helina'n gweithio fel extra gyda cherddorfa'r BBC yng Nghymru, ac yn blaenu Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Cerddorfa Ieuenctid y Proms Cymreig a Cherddorfa Siambr Ieuenctid Bae Caerdydd. Hefyd, bu'n perfformio fel unawdydd mewn amryw o gyngherddau lleol gyda Chôr Bae Caerdydd a Chôr Poliffonig Caerdydd. Heddiw, mae Helina'n gweithio'n rheolaidd fel chwaraewr sesiwn yn recordio ac yn perfformio gyda bandiau gwerin a phop yn ogystal ag ysgrifennu cerddoriaeth ei hun.
Ganwyd Tanwen yng Nghaerdydd. Ennillodd râdd o'r Coleg Brenhinol Cerdd Llundain yn 1996.
Tra'n gweithio ar ei liwt ei hun fel chwaraewr, bu'n perfformio gydag amryw o gerddorfeydd a grwpiau siambr gan gynnwys Sinffonia Cymru, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Cymru, Cerddorfa Neuadd y Frenhines Newydd a'r Arcata Ensemble. Mae'r profiad helaeth yma wedi ei harwain i chwarae mewn llefydd megis Palas St James a'r Neuadd Wigmore, Llundain.
Ymddiddorodd Louise yng ngherddoriaeth ers yn ifanc iawn ac astudiodd y ffidil a'r fiola. Graddiodd o Goleg y Drindod, Caerfyrddin a thra'n dysgu Cerddoriaeth, bu'n astudio gradd uwch yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Yn ogystal ag ennill profiad gwerthfawr fel chwaraewr fiola gyda gwahanol gerddorfeydd, mae Louise yn trefnu cerddoriaeth ac yn rhoi gwersi offerynnol yn breifat ac mewn dosbarthiadau ar hyd De Cymru.
Ganwyd Claudine yn Derry a daeth i ddysgu'r soddgrwth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda Chris Hodges, Sharon McKinley a Peter Esswood. Ennillodd lle i astudio'r Soddgrwth Baroc yng Ngholeg Brenhinol Llundain gyda Richard Tunnicliffe.
Mae Claudine wedi perfformio mewn arddulliau gwahanol gan gynnwys Theatr a Dawns. Mae hi nawr yn perfformio ar liwt ei hun mewn gwahanol gerddorfeydd a grwpiau siambr yn ogystal â dysgu yn ardal De Cymru.
Er taw'r pedair uchod yw'r prif chwaraewyr, byddwch yn falch o wybod ein bod yn defnyddio detholiad o chwaraewyr medrus a phrofiadol i gymeryd lle unrhywun ohonom os bydd angen.
Mae'r chwaraewyr yma wedi perfformio gyda ni'n aml ac felly'n gyfarwydd dros ben gyda'm repertoire. Gweler manylion am rhai ohonynt isod.
Astudiodd Matthew'r ffidil yn Ysgol Gadeiriol Wells cyn iddo ennill ysgoloriaeth i astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Ers graddio, bu'n gweithio fel chwaraewr ar ei liwt ei hun gyda cherddorfeydd megis Cerddorfa Genedlaethol Cymru'r BBC, Cerddorfa Ulster, Northern Ballet, Emerald Ensemble a Cherddorfa Linynnol Lloegr. Mae Matthew'n arwain nifer o gwmnïau gan gynnwys Opera Box a'r Bath Philharmonia. Bu'n chwarae nifer o gonsiertos i'r ffidil ac mae'n perfformio'n rheolaidd fel cerddor siambr ar hyd Prydain.